Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 21 Mai 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.31 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies AC (Cadeirydd) Peter Black AC Christine Chapman AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Ann Jones AC Julie Morgan AC Nick Ramsay AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Kevin Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru Gillian Body, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Helen Jones (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
3 Cynllun Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru 2015-16
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Kevin Thomas a Gillian Body, Swyddfa Archwilio Cymru.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Cynllun Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru 2015-16: Trafod y dystiolaeth
5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd i ysgrifennu at Swyddfa Archwilio Cymru am ragor o wybodaeth.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru hefyd.
6 Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru: Trafod yr adroddiad drafft
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.
7 Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Trafod ymateb y Pwyllgor
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft.
8 Bil yr Amgylchedd (Cymru): Ystyriaeth gychwynnol
8.1 Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol Bil yr Amgylchedd (Cymru), gan gytuno i wahodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i un o'i gyfarfodydd er mwyn craffu arno ymhellach.
9 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Ystyriaeth gychwynnol
9.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod goblygiadau ariannol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a chytunodd i beidio â gwneud gwaith craffu ariannol pellach ar y Bil.
9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
10 Rhagolygon ar gyfer Trethi Cymru
10.1 Cytunodd y Pwyllgor i ailystyried y mater yn ei gyfarfod nesaf.